SL(5)461 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 er mwyn darparu ar gyfer cynnydd yn y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer gwasanaethau mewn cysylltiad â cheisiadau am dystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio) a gwasanaethau cyn-allforio cysylltiedig, ac i gynyddu’r uchafswm ar gyfer gwasanaethau y mae’r gyfradd gonsesiynol i allforwyr bach yn gymwys iddynt, o £250 i £750.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”), sy’n pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio tatws hadyd a phlanhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau technegol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir y pwynt rhinweddau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath;

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir uchod.

Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018 sy'n gweithredu, yng Nghymru, amryw o rwymedigaethau'r UE mewn perthynas ag iechyd planhigion. Bydd Rheoliadau 2018, fel y'u diwygir, yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

29 Hydref 2019